Y Cod Nofio yn y Gwyllt

Mae afonydd a llynnoedd Cymru yn lleoedd gwych i nofio ynddyn nhw. Helpwch i’w cadw’n lleoedd arbennig a’u gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol trwy wneud y canlynol:

  • parchwch bobl eraill
  • diogelwch yr amgylchedd naturiol
  • mwynhewch a gwnewch yn siŵr eich bod yn saff

Parchwch bobl eraill

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn cynnwys cyngor pwysig ynglŷn â’r modd y dylid defnyddio cefn gwlad yn gyfrifol. Cofiwch ymgyfarwyddo ag ef cyn mentro allan, a chofiwch gadw ato bob amser. 

Peidiwch â thresmasu. Mae yna ardaloedd lle mae gan y cyhoedd hawl i fynd arnynt, yn cynnwys llwybrau cyhoeddus, tir mynediad a rhai dyfroedd sydd â hawliau mordwyo. Fodd bynnag, y tu hwnt i’r ardaloedd hyn peidiwch â chymryd yn ganiataol fod gennych hawl i fynd ar unrhyw dir neu ddŵr heb ganiatâd y perchennog. 

Cofiwch y bydd pobl eraill, o bosibl, yn defnyddio’r llyn neu’r afon, er enghraifft cerddwyr ceunentydd, canŵ-wyr neu bysgotwyr. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod eich bod yno, ond gwnewch eich gorau i beidio â tharfu arnyn nhw na mynd ar eu traws.

Os byddwch angen newid eich dillad mewn lleoedd cyhoeddus, cofiwch wneud hynny heb dynnu sylw atoch eich hun.

Diogelwch yr amgylchedd naturiol

Rhwng yr hydref a’r gwanwyn mae llawer o wahanol bysgod yn dodwy eu hwyau mewn graean yn rhannau bas yr afon. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r wyau mewn sefyllfa fregus, ac mae’n drosedd eu niweidio. Os oes modd, peidiwch â chyffwrdd y graean ar wely’r afon – mae hyn yn wir ni waeth pa adeg o’r flwyddyn yw hi.

Peidiwch â niweidio planhigion yn/o amgylch y dŵr. Cadwch at lwybrau cydnabyddedig neu greigiau noeth. Os oes arweinlyfrau, gwybodaeth leol neu arwyddion i’w cael, defnyddiwch y rhain i ddod o hyd i’r lleoedd gorau i fynd i mewn ac allan o’r dŵr.

Peidiwch â dychryn adar, da byw nac anifeiliaid o fath arall – efallai y byddant yn dychryn yn hawdd. Os bydd eich presenoldeb yn cynhyrfu’r anifeiliaid, symudwch oddi wrthynt yn dawel.

Cofiwch y gall adar nythu ar ynysoedd, glannau a graean yn ystod y gwanwyn a’r haf. Byddwch yn ofalus iawn – peidiwch â tharfu arnynt yn ystod y cyfnod hwn.

Gall cyflwyno mathau goresgynnol o blanhigion ac anifeiliaid i gyrsiau dŵr gael effaith ddifrifol ar y cynefinoedd sydd i’w cael yno. Er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd, ewch ati i wirio, glanhau a sychu eich dillad nofio’n drylwyr cyn mynd i le newydd. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar dudalennau’r Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron.

Mwynhewch yr awyr agored a gwnewch yn siŵr eich bod yn saff

Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun.

Ystyriwch beth sydd o fewn eich gallu, nofiwch gydag eraill os oes modd neu rhowch wybod i rywun i ble rydych yn mynd a phryd y byddwch yn dychwelyd.

Cofiwch fod â ffordd o gael gafael ar help pe bai angen.

Cofiwch gadarnhau rhagolygon y tywydd cyn ichi adael eich cartref. Gall amodau’r dŵr newid tra byddwch allan.

Gwnewch yn siŵr ei bod yn ddiogel ichi fynd i’r dŵr:

  • gofalwch nad oes gwrthrychau cudd yn y dŵr
  • gwnewch yn siŵr fod y dŵr yn ddigon dwfn, rhag ofn ichi daro’r gwaelod
  • cofiwch y gall y ffordd y byddwch yn deifio effeithio ar ba mor ddwfn yr ewch chi
  • byddwch yn ofalus o gerhyntau cryf a dŵr sy’n llifo’n gyflym, yn enwedig o amgylch rhaeadrau a dyfroedd gwyllt
  • byddwch yn ofalus pan fyddwch ar y lan ar ymyl y dŵr, oherwydd gall creigiau, glaswellt a mwd fod yn llithrig ac ansad
  • sicrhewch bob amser eich bod yn gwybod sut i fynd i mewn ac allan o’r dŵr yn ddiogel

Cofiwch y bydd pobl eraill, o bosibl, yn defnyddio cychod neu longau eraill yn y cyffiniau:

  • gwnewch yn siŵr bod modd i eraill eich gweld – ystyriwch wisgo het lachar
  • gwnewch yn siŵr y gallant eich osgoi’n hawdd

Cofiwch gymryd sylw o arwyddion rhybudd ar/o amgylch y dŵr, yn enwedig o amgylch nodweddion artiffisial fel llifddorau a choredau.

Os byddwch yn nofio ymhell cofiwch gynllunio eich taith. Mae nofio mewn pwll nofio dan do yn wahanol iawn i nofio yn yr awyr agored – efallai na fydd modd ichi nofio’r un pellter. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble y gallwch ddod allan o’r dŵr pe baech angen gwneud hynny.

Weithiau gall y sioc o fynd i ddŵr oer yn sydyn beri ichi oranadlu neu hyd yn oed foddi. Ewch i mewn i’r dŵr yn araf a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am ffordd ddiogel o fynd allan o’r dŵr.

Ar ôl cyfnodau maith mewn dŵr oer mae modd i hypothermia ddatblygu. Os teimlwch eich breichiau’n gwanhau, eich bysedd yn mynd yn ddiffrwyth neu gwlwm chwithig yn eich cyhyrau, ewch allan o’r dŵr cyn gynted â phosibl.

Efallai y bydd bacteria, firysau neu algâu gwenwynig i’w cael mewn ambell le. Os bydd golwg annifyr ar y dŵr, neu os bydd yn drewi, peidiwch â mynd i mewn iddo. Ond os byddwch yn mynd i mewn i ddŵr amheus yr olwg:

  • gorchuddiwch friwiau a chrafiadau â phlasteri sy’n dal dŵr
  • gwisgwch esgidiau i’ch rhwystro rhag cael briwiau ar eich traed
  • peidiwch â llyncu’r dŵr
  • ar ôl mynd allan o’r dŵr, ymolchwch cyn gynted â phosibl, yn enwedig cyn bwyta
  • pe baech yn arddangos unrhyw symptomau, cysylltwch â’ch meddyg a dywedwch wrtho/wrthi ble yn union y buoch

I gael mwy o wybodaeth am ddiogelwch ar y dŵr a hyfforddiant perthnasol, ewch i wefan y Royal Life Saving Society.

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf