Is-ddeddfau pysgota Cymru gyfan newydd yn dod i rym

Salmon being released

Is-ddeddfau pysgota Cymru gyfan newydd yn dod i rym

Daeth yr is-ddeddfau i rym ar 1 Ionawr a byddant ar waith am ddeng mlynedd ac maent yn golygu bod rhaid i'r holl eogiaid sy'n cael eu dal gan bysgodfeydd gwialen a rhwyd gael eu rhyddhau yn fyw heb fawr o niwed ac oedi. 

Mae mesurau hefyd wedi'u cyflwyno i helpu i ddiogelu brithyllod y môr mewn nifer o'n hafonydd, ac mae'n rhaid rhyddhau pob brithyll y môr dros 60 cm sydd wedi'i ddal gan wialen yn fyw.  

Yn ogystal, bydd rheolaethau newydd ar ddulliau genweirio yn gwella goroesiad pysgod sydd wedi'u rhyddhau fel y gallant gyfrannu at stociau silio.

Ar hyn o bryd, yr unig eithriadau yw afonydd trawsffiniol afon Dyfrdwy ac afon Gwy, lle rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y broses i gadarnhau is-ddeddfau pysgota â gwialen newydd yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Dywedodd Peter Gough, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Mae ein holl stociau o eogiaid mewn perygl difrifol ac mae eu niferoedd wedi syrthio i lefelau hanesyddol isel. Gellir dweud yr un peth am y rhan fwyaf (70%) o’n stociau o frithyllod y môr. 
“Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi cymryd rhan mewn proses drylwyr i nodi'r dystiolaeth er mwyn cyfiawnhau cyflwyno rheoliadau pysgota newydd i helpu i ddiogelu'r stociau bregus hyn. 
“Yn dilyn ymchwiliad a archwiliodd y dystiolaeth, cymeradwyodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig is-ddeddfau newydd ar gyfer pysgota â gwialen a rhwyd er mwyn helpu i ddiogelu'r pysgod eiconig hyn.
“Mae hyd yn oed niferoedd bychain o bysgod yn hanfodol er mwyn adfer stociau mewn cyn lleied o amser â phosibl. Mae pob pysgodyn sy'n silio yn cyfrif.”
Yn ogystal, ac fel sy'n ofynnol gan y Gweinidog, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio gyda'n partneriaid a Llywodraeth Cymru er mwyn nodi a mynd i'r afael ag ystod o bethau sy'n difrodi stociau. “

Ychwanegodd Peter:

“Credwn yn gryf fod yr is-ddeddfau newydd, yn ogystal ag ystod o fesurau brys eraill fel mynd i'r afael â llygredd amaethyddol, gwella ansawdd dŵr, gwella cynefinoedd a rheoli bygythiadau posibl gan ysglyfaethwyr, yn hanfodol ar gyfer dyfodol eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru. 
“Rydym am weithio gyda'r cymunedau sy'n pysgota a phawb sydd â rhan i'w chwarae yn amgylcheddau ein hafonydd er mwyn diogelu ein pysgod a physgodfeydd fel y gall cenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Bydd yr is-ddeddfau yn gam cadarnhaol i helpu i ddiogelu stociau.”

Am fwy o wybodaeth ewch i:

https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/fisheries/angling-byelaws/?lang=cy