Sicrhau bod Llyn Tegid yn parhau'n ddiogel yn y tymor hir

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau gwaith mawr i sicrhau bod llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid yn y Bala, yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor hir.

Er bod Llyn Tegid yn llyn naturiol, mae angen ei reoli dan ddeddfwriaeth cronfeydd dŵr gan fod argloddiau'r llyn yn rhoi amddiffyniad rhag llifogydd i dref Y Bala. Gwelwyd hyn yn fwyaf diweddar yn dilyn glaw trwm ym mis Tachwedd 2020 (gweler lluniau o’r digwyddiad hwn a sut roedd y Bala yn arfer cael ei effeithio cyn adeiladu amddiffynfeydd yn y 1950au).

Roedd y gwaith, a gafodd ei gwblhau yng Ngwanwyn 2023, yn cynnwys cryfhau argloddiau ac ailosod yr amddiffyniad o greigiau glan y llyn. Mae hyn yn rhan o'n gwaith i reoleiddio Llyn Tegid o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac mae'n rhan o raglen ehangach o waith diogelwch cronfeydd dŵr ar draws Cymru.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer y prosiect ar 19 Mai 2021 a dechreuodd y gwaith ar y safle ar 15 Tachwedd 2021.

Mae ein Contractwr Fframwaith, William Hughes, wedi cyflawni gwaith peirianyddol ar 3km o argloddiau dyrchafedig yn ogystal â gwelliannau tirweddu, hamdden a bioamrywiaeth.

Mae mwy na 13,000 tunnell o amddiffyniad craig ar hyd glan y llyn wedi'i ailosod ac mae dros 300 o goed hunan-hadu (ynn yn bennaf) a oedd yn gwanhau'r argloddiau wedi'u tynnu.

Gan weithio gyda chwmni tirwedd arbenigol, Ground Control, mae CNC wedi cyflawni ei ymrwymiad o blannu tair coeden am bob un goeden sydd wedi cael ei symud.

Mae'r gwelliannau sydd wedi’u cyflwyno gan y prosiect yn cynnwys:-

  • Gwelliannau cynefin gan greu tua 5 ha o ddôl wlyb llawn rhywogaethau, wedi'i ategu â hadau gwair gwyrdd yr haf diwethaf;
  • Tair blynedd o waith ymlaen llaw i reoli Rhywogaethau Ymledol ac Anfrodorol;
  • Ailgynllunio maes parcio blaendraeth y llyn er mwyn atal difrod gan geir a oedd yn gyrru i gynefinoedd gwarchodedig;
  • Mae clogfeini sy'n cael eu hailddefnyddio o'r cynllun wedi helpu i bennu ffiniau mannau parcio ceir;
  • Mae nifer o lwybrau, rampiau a phwyntiau mynediad bellach yn fwy hygyrch. Roedd arwynebau llwybrau wedi’u huwchraddio i darmac ac maen nhw wedi bod yn boblogaidd gyda'r Park Run lleol;
  • Rydym wedi tirlunio ardal y Ganolfan Hamdden gyda seddi a phlannu newydd;
  • Rydym wedi darparu seddau a gwybodaeth prosiect o ansawdd uchel ar draws y safle;
  • Darparwyd pren wedi'i dorri i weithgor gwaith coed lleol, ysgolion a grŵp achub mynydd lleol.
  • Cynhyrchwyd adnoddau i ysgolion lleol eu defnyddio ar gyfer addysg amgylcheddol.

Nododd CNC gyfle cynnar i weithio gydag Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid. Rydym wedi ymgorffori rhan o gafn y rheilffordd o fewn yr arglawdd i hwyluso ehangiad posibl o'r rheilffordd gul. Bydd y gwaith, sy'n cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid, yn galluogi'r atyniad twristaidd poblogaidd hwn i redeg o dref y Bala i ben gorllewinol Llyn Tegid, yn amodol ar gyllid a chaniatâd cynllunio.

Mae prosiect Diogelwch Cronfa Ddŵr Llyn Tegid wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda chyfanswm cost y prosiect yn £7 miliwn.

Rydym yn ddiolchgar i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth barhaus yn ystod y gwaith. Cynhaliwyd seremoni agoriadol ar 31 Mawrth 2023 pan oedd yr arglawdd blaendraeth yn ailagor yn llawn i drigolion lleol ac ymwelwyr ei fwynhau unwaith eto.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cyfeiriwch y rhain at llyntegid@naturalresourceswales.gov.uk neu cysylltwch ag Andrew Basford, Rheolwr Prosiect ar Siaradwr Cymraeg) ar Ffôn: 03000 653846 neu Sharon Parry, Swyddog Cymorth Prosiect i Siaradwr Cymraeg) ar Ffôn: 03000 655264.

Gallwch ddysgu mwy am y gwaith hwn drwy ddarllen ein Atebion i gwestiynau cyffredin.

 

Lluniau drôn a gafodd eu tynnu yn ystod y gwaith ar hyd arglawdd blaendraeth y llyn

Golygfa o lwybr troed blaendraeth yr arglawdd wedi'i uwchraddio

 ​

Diweddarwyd ddiwethaf