Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru

Strwythurau Gludog: Gyda Manon Awst a'r Rhaglen Adfer Mawndir Cenedlaethol

February 08, 2023 Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru
Strwythurau Gludog: Gyda Manon Awst a'r Rhaglen Adfer Mawndir Cenedlaethol
Show Notes Transcript

Yn y bennod yma, siaradwn â Manon Awst i ganfod mwy am ei gwaith gwefreiddiol wrth iddi fynd ati i greu strwythyr creadigol sydd am fod yn adlewyrchu nodweddion storio carbon mewndir; yn benodol ar hyn o bryd drwy ymchwilio mawndir ardaloedd cadwraeth nodweddiadol ffeniau Môn a Llŷn.

 Mae hi wrthi’n cydweithio ag arbenigwyr y rhaglen Adfer Mawndir Cenedlaethol a ariannir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o weithredu i daclo’r argyfyngau hinsawdd a natur.

 Hynny wrth gwrs drwy gadw’r carbon yn y ddaear a chaniatáu i fioamrywiaeth ailgydio ar fawndir iach.

Hanna: Helo a chroeso i’r podlediad Cyfoeth Naturiol Cymru yma o Fangor. Hanna yw fy enw i a dwi’n cefnogi tîm Rhaglen Adfer Mawndir Cymru gyda partneriaethau a chyfathrebu.

 Dwi yma gyda’r artist amryddawn,  Manon Awst i ganfod mwy am ei gwaith gwefreiddiol yma’n lleol wrth iddi fynd ati i greu strwythyr creadigol sydd am fod yn adlewyrchu nodweddion storio carbon mewndir; yn benodol ar hyn o bryd drwy ymchwilio mawndir ardaloedd cadwraeth nodweddiadol ffeniau Môn a Llŷn.

 Mae hi wrthi’n cydweithio ag arbenigwyr y rhaglen adfer mawndir cenedlaethol a ariannir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o weithredu i daclo’r argyfyngau hinsawdd a natur.

 Hynny wrth gwrs drwy gadw’r carbon yn y ddaear a chaniatáu i fioamrywiaeth ailgydio ar fawndir iach.

 

Hanna: Croeso Manon.

 

Manon: Diolch am fy wahodd i yma i sgwrsio.

 

Hanna: Manon, mae dy gefndir di mor ddiddorol. Wyt ti barod i rannu rhyw faint o dy hanes efo ni?

 

Manon: Wrth gwrs. Artist ydw i. Dwi’n byw yng Nghaernarfon ar hyn o bryd, a wnes i dyfu fyny ar Ynys Môn yn Pencarnisiog, sydd ddim yn bell o Rhosneigr ag Aberffraw, a mynd i Ysgol Uwchradd Bodedern a wedyn mynd ymlaen i wneud cwrs sylfaen celf yng ngholeg Menai. Ac astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Ac er fy mod i’n astudio pensaernïaeth, celf oedd fy mhethau i. Cerfluniau a gwaith safle penodol. Creu gosodiadau ac yn y blaen yn ymateb i bensaernïaeth - gofodau mewnol. Ond yn fwy ac yn fwy i dirluniau a safleoedd tu allan.

 Ar ôl fy ngradd wnes i symud i Berlin i fyw am bron i ddeg mlynedd. Ond wrth gwrs ro’n i nôl ac ymlaen rhwng Cymru a’r Almaen yr holl amser yna. A setlo nôl yng Nghaernarfon ychydig o flynyddoedd yn ôl.

 

Hanna: Ie, mae hwna’n un o’r nodweddion diddorol am dy waith di wrth i ti berthnasu dy greadigrwydd i’r tirwedd a natur. Fedri di esbonio ychydig bach yn fwy am yr ysbrydoliaeth yna?

 

Manon: Fedraf. Dwi’n meddwl hyd yn oed pan es i astudio pensaernïaeth, o feddwl yn ôl, dwi’n meddwl, be’ dwi’n dweud yn Saesneg ydy ‘Architecture of landscape’. Strwythur sy’n bodoli mewn tirluniau wedi yn sicr wedi cael ei ysbrydoli o dyfu fyny yn yr ardal yna yn Môn. Achos o ‘nghwmpas i gyd oedd gymaint o enghreifftiau o sut oedd pobl wedi bod yn trawsnewid tirweddau, ac yn cyd-fyw efo natur ar hyd y blynyddoedd. Reit wrth ymyl fy nhŷ i oedd cromlech Tŷ Newydd a Barclodiad y Gawres, y safle neolithig ger Aberffraw. Ac mae’r ynys i gyd yn llawn o’r safleoedd hynod yma. A phan wnes i fy nhraethawd hir ar ddiwedd y gradd, wnes i sgwennu am Barclodiad y Gawres a gwneud lot mwy o ymchwil, ac yn cymharu sut oedd y bobl hynafol yma wedi cyd-fyw gyda’r tir, a cymharu hynna gyda’r tai haf newydd oedd yn cael eu hadeiladu yn Rhosneigr ar y pryd. Felly’r tensiwn yna rhwng byd natur a ella’r defnyddiau yma sydd ddim mor gynhaliol a hynny.

 

Hanna: Mae’n hyfryd meddwl dy fod wedi cymryd yr ysbrydoliaeth o dirwedd Ynys Môn a’i arddangos mewn llefydd fel Berlin, ac ar y llaw arall dy fod ti wedi dychwelyd nawr efo dy dalent a dy greadigrwydd i gyfrannu yn ôl i greadigrwydd yng Nghymru, ac i ddehongli, ail-ddehongli mewn ffordd, y dirwedd yng Nghymru mewn ffordd gyfoeth a modern.

 

Manon: Ie, a dwi’n meddwl, tra o’n i’n byw Berlin hefydd oedd y cysylltiad yna efo tirwedd yn dod ar draws yn y gwaith. Er enghraifft yn 2017, wnes i a Benjamin Walter o’n i’n cyd-weithio efo ar y pryd, greu wal o gregyn gleision yng nghanol Berlin, allan o gregyn wedi eu casglu ar y Fenai. Felly mae’r wal yna dal i fodoli ar sgwar Rosa-Luxenburg-Platz yn Berlin. Ac mae wedi’i orchuddio’n llwyr efo’r cregyn gleision o’r Fenai. Mae bron fel bod fi ‘di gallu gadael darn o dirwedd Cymru yng nghanol Berlin sydd yn deimlad reit braf.

 

Hanna: Gwych. Manon, dwi wrth fy modd yn clywed am y prosiect newydd ‘ma sydd gen ti ar y gweill. Fedri ‘di esbonio ychydig bach mwy amdano?

Manon: Wel, Cerfluniau Corsiog ydi enw’r prosiect. Mae o wedi cael ei ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru gan gydweithio gyda chi, wrth gwrs, sef Cyfoeth Naturiol Cymru, ac hefyd Prifysgol Bangor - yn benodol y Bio Composites Centre yno sydd yn gwneud lot o waith ymchwil ar ddeunyddiau newydd. Felly wedi cael ei ysbrydoli gan Corsydd Môn mae’r gwaith a dw i’n edrych ar strwythur y corsydd, be ‘da ni’n ffeindio yno, sut mae’r corsydd yn gweithio, sut mae nhw’n storio carbon ac y gobaith ydi bod y gwaith ymchwil yma a’r cydweithio gyda gwyddonwyr yn ysbrydoli cerfluniau newydd. Gobeithio hefyd bydd y cerfluniau hefyd yn gallu storio carbon, ond mae yna lot o waith i fynd.

Hanna: Pam y corsydd yn benodol i ti? Beth ydi’r sylwedd sydd yn dy ddenu ti tuag at y corsydd?

 

Manon: Wel mi nes i ymweld â chorsydd Môn yn 2017 tra oeddwn i’n ymchwilio i brosiect y lle celf yn yr Eisteddfod 2017 ym Môn. Ac ar y pryd mi oedd prosiect LIFE Corsydd Môn a Llyn yn mynd yn ei flaen ac mi oedd yna lot o waith adfer yn digwydd ar y corsydd ac roedd be oedd yn mynd ymlaen yn anhygoel. Ond mi nes i benderfynu ar gyfer y prosiect Eisteddfod i ganolbwyntio ar ddaeareg Môn a gweithio efo Geo-Môn. Ond mi oedd y corsydd dal yn fy meddwl i yn rhywle, ac efo’n waith yn creu cerfluniau oeddwn i’n teimlo fel fy mod i wedi dod i bwynt lle'r oedd angen i mi greu deunyddiau o’r newydd. Deunyddiau sydd yn naturiol ac yn rhoi’n ôl i’r amgylchedd. So wrth edrych yn fwy ar y corsydd a sut mae’r mawn yn gweithio, corsydd Cymru ydi’r storfeydd carbon fwyaf effeithiol. Er bod 'na ddim lot o gorsydd o gymharu â choedwigoedd a dw i’n meddwl bod hynny’n anhygoel a doeddwn i’m yn gwybod hynny cynt. Ac mi oeddwn i’n meddwl bod yna ffordd yma i godi ymwybyddiaeth a hefyd ysbrydoli gwaith creadigol. Felly dyna pam Corsydd Môn.

 

Hanna: Ac wrth gwrs mae yna fawndir ar draws Gymru sydd yn hynod amrywiol ac wedyn mae ffeniau Môn yn benodol â rhywogaethau ac agweddau diddorol iawn iddynt. Ond mae rhaid i ti ffocysu ar rhai ardaloedd yn benodol ac un ardal ydi Cors Bodeilio yn ôl be dw i’n ddeall. Felly sut wyt ti am fod yn clymu hwnna hefo’r gymuned o amgylch y gors?

 

Manon: Ia, mae Cors Bodeilio yn safle arbennig iawn achos mae o’n cysylltu fel mae'n digwydd hefo daeareg yr ynys hefyd. Felly oherwydd bod y calchfaen o dan y pridd a’r gors, mae’r dŵr yn alkaline. So dwr melys fel mae pobl leol yn ei alw fo ac sydd yn hybu bioamrywiaeth benodol iawn hefyd ac arbennig. Mae lot o bobl leol yn gwybod am hyn ac wedi bod yn ffermio ar y tir cyfagos ac wedi dylanwadu ar iaith leol hefyd gydag enwau penodol ar y planhigion a’r tir. Felly mae hwnnw’n fan cychwyn i mi i feddwl am y gwaith ‘ma a dwi eisiau dod i ddeallt y deunyddiau sydd ar y safle yn well. Yn barod, gyda help Dr Peter Jones, ‘da ni wedi cael sampl bach o’r mawn a dwi wedi bod yn edrych trwy’r microsgop i weld beth sydd yn y deunydd yma. A hefyd mae yna lot o wair yn gorfod cael ei dorri yn rheolaidd o’r gors er mwyn roi lle i’r planhigion mwy arbennig ac amrywiol yma i dyfu. A dw i’n trio creu rhywbeth allan o’r gwastraff ‘ma a dyna le mae’r gwaith hefo’r bio composites yn dod i mewn i greu deunyddiau newydd mewn ffordd. Ond y gobaith ydi i gydweithio hefo ysgolion lleol, felly dwi yn mynd i fod yn creu gweithdai hefo disgyblion Ysgol Talwrn ym mis Mawrth ac Ebrill ac maen nhw yn awyddus iawn i fod yn  rhan o’r gwaith creadigol. Dw i’n meddwl bod hi’n bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth hefo’r genhedlaeth nesaf ac ysbrydoli nhw hefyd a gweld bod y ffin rhwng celf a gwyddoniaeth ddim yna, maen nhw’n gallu dylanwadu ei gilydd ac ysbrydoli ei gilydd.

 

Hanna: Ie, ac mae’n neis sut mae dy ysbrydoliaeth yn plethu bob math o ddisgyblaeth: gwyddoniaeth, a chelf ag ati. A pegwn hwnnw eleni efallai fydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Sut wyt ti am fod yn cyfleu hyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Be fyddwn yn medru gweld erbyn yr Eisteddfod?

 

Manon: Mi fydd ’na osodiad ar Gors Bodeilio, arddangosfa yn Oriel Brondanw yn yr ha’ ag rhyw fath o gyflwyniad yn yr Eisteddfod. Cyflwyniad mewn ffurf cerflun ond hefyd bosib fydd yn dŵad a’r cerddi corsiog, sef dod a barddoniaeth i fewn, ag elfen o’r gwaith gyda’r ysgolion hefyd.

 

Hanna: A beth sy’n hynod am dy waith di yw ti’n plethu’r diwylliannol a’r hanesyddol, yr ieithyddol a’r elfennau bioamrywiaeth, a’r elfennau celf i dy waith di, pa fath o gynulleidfa wyt ti’n meddwl fydd yn gwerthfawrogi hwn?

 

Manon: Dwi’n gobeithio bod beth sy’n cael ei greu yn gallu apelio at gynulleidfa amrywiol iawn, achos dwi’n meddwl bod deunyddiau’n rwbath sy’n cysylltu efo pawb. Mae’n tu hwnt i iaith so dwi’n gobeithio bydd iaith ddim yn creu rhwystr. O ni’n siarad efo Bethan Wyn Jones yn ddiweddar ar y gors a ma hi wedi bod yn neud lot o waith efo’r gymuned leol, Merched y Wawr er enghraifft, ac wrth gwrs y disgyblion mwy ifanc, felly, fel dwi’n dweud, dwi’n gobeithio bydd yn apelio at nifer fawr o bobl.

 

Hanna: O mae’n swnio mor gyffrous dwi’n edrych ymlaen i weld datblygiad y gwaith. Lle fyswn yn gweld datblygiad y gwaith, da chi am fod yn rhannu hyn? 

 

Manon: Yndw, dwi’n rhannu delweddau yn gyson ar Instagram ag fydd na dudalen ar fy ngwefan i hefyd yn ddogfen o’r gwaith ymchwil. 

 

Hanna: Pa gyfnod yn y prosiect wyt ti nawr a beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

 

Manon: Wel ar y funud, neud yr ymchwil ar y deunyddiau ydw i. Dwi ‘di dod a potyn bach hefo fi yn fama, ag o ni yn y laboratory biocomposites ddoe a hwn sydd wedi dod allan. Y sampl cyntaf o biochar, a dwi mor hapus! Mond sampl bach iawn ydi o, dwi’n gwybod hynna, ond dwi mor hapus bod o di troi allan fel o ni isho. Felly cyn Dolig nath Emyr Humphreys warden y corsydd ym Môn rhoi bag llawn o ddeunydd gwastraff o’r safle, so Molinia/Crawcwellt ag amryw wellt arall, ag nes i adael yr holl beth i sychu ar lawr y gegin dros Gwyliau’r Dolig ag mynd a fo mewn i’r labordy a trio ei losgi fo mewn ffordd heb ocsigen sef fod e’n dal y carbon i mewn. Ag o ni’n meddwl ella sa fo’n troi i mewn i bowdr ond dwi’n falch iawn bod o di dal ei strwythur ac mae hwn yn ffordd ymlaen i mi ar gyfer y cerfluniau yma.

 

Hanna: Ma hwnna mor gyffrous. Dwi’n dal y potyn gwydr yma ag mae na briciau mân mân iawn o ddeunydd du, ac wedyn pan ti’n cyffwrdd nhw mae o’n troi yn bowdwr yn dyw e.

 

Manon: Mae o fatha siarcol.

 

Hanna: Ie siarcol. Ac wedyn hwn o bosib fydd y deunydd fydd yn creu y strwythur terfynol?

 

Manon: Ie dwi’n meddwl bydd y cerfluniau terfynol yn gymysgedd o wahanol ddeunyddiau a dyna be dwi’n trïa gweithio allan rŵan. Sut mae defnyddiau’n gweithio hefo’i gilydd. Beth sy’n dal be at ei gilydd? Ond yn sicr dwi’n gobeithio fydd hwn yn rhan ohono.

 

Hanna: O mae mor gyffrous, ac wedyn wrth gwrs mae’r Molinia yma, y Crawcwellt ma, yn niwsans yn y bôn ar y ffeniau, ar y corsydd, oherwydd ma nhw’n rhwystro’r fioamrywiaeth a’r planhigion prin sydd angen y mawndir i ffynnu.

 

Manon: Yndi

 

Hanna: Felly da chi’n neud defnydd o ddeunydd gwastraff ag eto’n parhau gyda’r cysyniad yna o gadw’r carbon yn yr un modd a’r mawndir?

 

Manon: Ie, yn hollol. Tueddi i gymryd drosodd ma’r deunydd yma felly mae’n gorfod cael ei dorri nôl beth bynnag ? So mae’n wastraff. A dwi’n licio’r syniad o’r trawsnewid. Troi rhywbeth syn wastraff i fewn i rywbeth cynhyrchiol ac mae bron fel bod o’n rhoi cylch cyfan ar y safle tydi?

 

Hanna: Mae o’n wych achos be wyt ti’n neud ydi, mae’n anodd i bobl fel fi esbonio gwerth be sy o dan y tir, yn y mawndir, ag eto wyt ti am greu strwythur uwchben y tir sy’n cyfleu'r hyn sy’n digwydd o dan y tir.

 

Manon: A dwi hefyd – un peth arall sydd yn fy nghyffroi i – mae’r arbenigwyr yn sôn am y ‘bog breathing’ – y ffordd mae’r mewndiroedd yn anadlu. Mewn ffordd – methu lefel y dŵr ydy’r anadlu yma, achos mewn mewndiroedd iach, mae yna newid rhwng y cyfnodau yma a mae’r graff sy’n methu’r lefelau dŵr yn mynd i fyny ac i lawr, i fyny ac i lawr fel fiasau’r tir yn anadlu. Mae hynny yn fy nghyffroi i a sgwn i os oes ffordd i’r cerflun yma yn mesur yr anadl yma mewn rhyw ffordd, felly mae yna lot o ffyrdd gall y brosiect fynd.

 

Hanna: Mae’n dod â ti mewn cylch cyfan i’r fam ddaear eto efo’r busnes anadlu yma. Manon, yn ein gwaith bob dydd gyda Cyfoeth Naturiol [Cymru] a hefyd yn y gwaith ar fewndir, taclo’r argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur yw’r flaenoriaeth ac wrth gwrs, mewndir ydy’r adnodd tir pwysicaf Cymru ar ran cadw carbon yn y tir; beth oedd y manylion oeddet ti’n ffeindio’n ddiddorol?

 

Manon: Dwi’n meddwl bod amser wedi glynu i’r safleoedd yma. Felly mewn metr o’r mawn mae yna fil o flynyddoedd o fewn hynna wedi ei gasglu, ac wrth gwrs mae’r mwsog yma, y migwyn , hwna sy’n cynnal yr holl ecosystem. Mae e fel sbwng sy’n dal llwyth o ddŵr ac wrth i’r planhigion ddisgyn a marw, mae nhw’n cael eu dal ac yn dal y carbon yma i fewn. Felly mae yna rywbeth am amser a’r cynhwysion gludiog diddorol yma – dw i’n meddwl mai hynny sydd wedi fy ysbrydoli i – ac wrth gwrs wrth sefyll yna fel ymwelydd, dyw hwnna ddim yn amlwg i ddechrau gyda nac ydy? Dim ond trwy dechrau tyrchu a dechrau mae hyn i gyd yn dod i’r amlwg ac oherwydd bod y mewndiroedd dw i’n meddwl mae dyna pam oeddwn i eisiau i’r prosiect yma i ddatgelu ychydig o’r cyfrinachau yma.

 

Hanna: Ydy, mae’n wefreiddiol pan ‘dych chi ar y mewndir a chi’n cael y ‘peat sample’ or ‘peat corer’ gan Dr Rhoswen Leonard neu Dr Peter Jones, a’r teimlad eich bod yn cyffwrdd darn o fawn oedd yn ddigwyn rhyw fil neu dwy fil o flynyddoedd yn ôl – mae’n rhyfeddol yn dydy?

 

Manon: Ydy, achos mae’r deunydd yn datblygu mor ara’ deg, mae un milimedr yn datblygu bob blwyddyn, felly os dych chi’n edrych ar fedr, mae hynny’n fil o flynyddoedd oed. Ac wrth gwrs mae hynny’n dogfennu perthynas pobl efo’r tir dros y cyfnodau eang yma. Felly mae nhw’n dal ein hanes ni fel pobl ar yr ynys.

 

Hanna: A mae hynny’n perthnasu hefyd – rwyt ti hefyd yn fardd a mae mewn ffordd, mae’r holl elfen yna o haenau ac ati – rwyt ti’n edrych ar yr ochr wyddonol hefyd, ond rwyt ti’n fardd hefyd. Mae’n rhaid bod hynny’n ysbrydoliaeth i ti o ran edrych yn ôl ac ymlaen a gweld haenau mewn hanes a bodolaeth dyn a’r dyfodol hefyd ar ran bygythiad i ni yn y dyfodol.

 

Manon: Yn sicr, dw i’n meddwl bod ‘na eirfa anhygoel yn gysylltiedig efo’r safleoedd yma. Dw i wedi bod yn casglu – dw i wedi bod yn casglu – dw i wedi bod yn galw nhw’n ‘geirfa gorsiog’ dw i wedi bod yn dechrau ‘sgwennu ‘cerddi corsiog’. So mae’r safleoedd yma yn fy ysbrydoli mewn mwy nag un ffordd a dw i’n gobeithio hefyd fydd hyn yn ysbrydoli’r disgyblion yn yr ysgol hefyd a chynulleidfa’r Eisteddfod – achos mae ‘na lot o feirdd yn ymweld â’r Eisteddfod. Felly bydd y prosiect yn hybu mwy o artistiaid a fwy o feirdd i edrych yn fanylach ar gorsydd Cymru.

 Fel arfer, dw i yn sgwennu cerddi yn Gymraeg ac yn aml trwy’r gynghanedd a dw i wedi trio rhoi’r un rheolau yn ei le, ond sgwennu cerdd yn Saesneg.

 

Hanna: Tipyn o gamp!

 

Manon: Felly dyma hi,

 

Raw weather for bog breathing –

deep down and soaked brown, to bring

that sticky, peaty pattern

near. Taste that earthy return.

 

Densely, all those hungry hues

gather under the sundews,

and wade across the mosses,

and sow time, just as it is.

 

 

Hanna: Mewn geiriau, ti wedi cyfleu yr union fath o olygfa y prosiect rwyt ti’n anelu i gyflawni – mae hynny’n wych.

 O, mae rhaid i fi weud, mae’n ysbrydoliaeth gwrando arno ti a dw i wrth fy modd yn edrych ymlaen i weld y cynnyrch wrth iddo ddatblygu. Diolch yn fawr iawn i ti Manon:

 

Manon: Croeso, siŵr.