Mentra'n Gall

Gofynnwch 3 chwestiwn i’ch hunan cyn i chi gychwyn:

Ydw i’n hyderus fod gen i’r WYBODAETH A’R SGILLIAU ar gyfer y diwrnod?

Ydw i’n gwybod sut fydd y TYWYDD?

Oes gen i’r OFFER cywir?

Cwblhewch y cwis i ganfod a ydych chi’n  Mentro’n Gall »

Byddwch yn glyfar gyda covid

MENTRA’N GALL

Ask yourself 3 questions before you set off:

Ydw i’n gwybod sut fydd y TYWYDD?

Oes gen i’r OFFER cywir?

Ydw i’n hyderus fod gen i’r WYBODAETH A’R SGILLIAU ar gyfer y diwrnod?

Cwblhewch y cwis i ganfod a ydych chi’n Mentro’n Gall  »

Mentrwch yn Gall yn y Gaeaf

Gall dyddiau byr a thywydd heriol wneud anturiaethau yn y gaeaf yn beth gwerth chweil a dyrys ar yr un pryd, sy’n golygu bod angen meddwl a pharatoi ychydig mwy. Darganfyddwch sut i gael diwrnod allan bendigedig a diogel yn y gaeaf…

3 cwestiwn i chi ofyn i chi eich hun cyn i chi gychwyn allan

Os ydych chi’n sgorio 3/3 ar y cwestiynau yma, yna i ffwrdd a chi i gael diwrnod gwych! Os nad, cariwch ‘mlaen i ddarllen er mwyn dod o hyd i’r atebion yr ydych eu hangen er mwyn bod ȃ’r offer cywir ac yn gwybod sut i fod yn ddiogel!

Ydw i’n hyderus bod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?

Mae antur yn ein galluogi i wthio ffiniau ein hyder ac yn ffordd wych o gynnau ein awch am fywyd. Trwy Fentro’nGall byddwch yn meddwl am eich profiad a’ch profiadau eich hunan. Mae dewis antur yr ydych yn gwybod sydd o fewn eich gallu yn rhan o’r hwyl – ac os ydych chi eisiau gwthio eich ffiniau, yna mae digon o ffyrdd i ddod o hyd i dywyswyr neu hyfforddwyr i’ch helpu.

Darllen mwy

Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd

Fel yr ydym ni oll yn gwybod yn y DU, mae gan y tywydd y gallu i ddifetha neu wella ein diwrnod. Nid yw hyn yn golygu bod rhaid i law mȃn neu wyntoedd cryfion ein rhwystro. Fel unrhyw Sgowt da, mae bod yn barod ac addasu eich cynlluniau yn allweddol i reoli eich diwrnod. Gwiriwch ragolygon y tywyddmae’r Swyddfa Dywydd yn fan da i gychwyn. ON Cofiwch y gall achlysuron prin o awyr glir beri problemau hefyd (gwyliwch rhag cael trawiad gwres!)

Darllen mwy

Oes gen i’r offer cywir?

Os yw hyn wedi gwneud i chi ofyn ‘beth yw’r offer cywir?’ yna rydych chi angen help! Does dim angen i offer fod yn ddrud ond mae angen iddynt eich cadw’n sych a chynnes, ac o ran esgidiau, dylent ffitio’n dda; does dim byd tebyg i bothell am ddifetha diwrnod da o gerdded! Os yw dy antur yn ymwneud ȃ mynd allan ar y dŵr yna mae siaced achub sy’n ffitio’n dda ac wedi cael ei ofalu amdano’n dda yn hanfodol.

Darllen mwy

AWYDD MENTRO AR ANTUR?​

Cliciwch ar gyrchfan isod i ganfod mwy ynghylch sut i Fentro’n Gall …

image_pdfimage_print