Creu Coetir yn Brownhill

Closed 26 Apr 2022

Opened 1 Mar 2022

Overview

 

Rydym yn gofyn am eich barn ar ddyluniad y coetir coffaol newydd yn Brownhill, yn nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.

Mae'r safle yn un o'r tri lleoliad arfaethedig ar gyfer y coetiroedd coffa yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn gan y Prif Weinidog Mark Drakeford fel symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig ac yn un o adfywio ac adnewyddu wrth i'r coetiroedd newydd dyfu.

Ar beth rydyn ni'n ymgynghori?

Rydym eisiau ymgysylltu â chymunedau lleol a’n partneriaid i gynllunio a dylunio’r coetir, gan eu creu’n fannau diogel a hygyrch, lle gall pobl o bob oed ddod i gofio a myfyrio am flynyddoedd i ddod.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn sicrhau bod unrhyw effeithiau posibl y gallai coetir newydd eu cael ar yr ardal gyfagos yn cael eu hystyried ac yn cynnig cyfle i bobl gyflwyno syniadau ar sut y gallant fod yn rhan o'r broses gynllunio.  

Creu Coetir

Mae coetiroedd yn cynnig ystod eang o fuddion – o’n helpu ni i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy gloi carbon, i ddarparu cynefinoedd gwerthfawr i blanhigion a bywyd gwyllt, darparu mannau hamdden awyr agored i bobl eu mwynhau, arafu dŵr llifogydd a helpu i leihau llygredd dŵr a chynhyrchu cyflogaeth a chefnogi bywoliaethau gwledig trwy eu hôl-ofal a rheolaeth weithredol.

Mae creu’r coetir hwn yn rhan o’n Rhaglen Creu Coetir ehangach, a sefydlwyd i helpu i gynyddu cyfradd creu coetiroedd newydd a phlannu coed yng Nghymru, i gefnogi ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Fel gydag unrhyw goetir ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru, bydd yn cynnig adnodd cyhoeddus gyda mynediad agored ac yn cael ei reoli i fodloni Safon Coedwigaeth y DU a Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig.

 

Y  safle

Mae'r safle wedi'i leoli'n agos at yr A40 yn Sir Gaerfyrddin rhwng pentrefi Maenordeilo a Llanwrda, y cod post yw SA19 8HE, a'r orsaf drenau agosaf yw Llangadog 1.5 milltir i ffwrdd.

Dengys Ffigur Un y lleoliad

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Mae'r safle yn 94 hectar ac yn dir gorlifdir gwastad yn bennaf.

Mae Gogledd y safle wedi ei ddefnyddio ar gyfer silwair/gwair a phori, tra bod y gweddill yn dueddol o fod yn dir gwlypach ac wedi ei ddefnyddio ar gyfer pori ac yn cynnwys porfa barhaol gyda pheth ohono yn frwynog. Rhennir y caeau gan wrychoedd, rhai ohonynt yn aeddfed a rhai wedi'u plannu'n fwy diweddar, gyda gwrychoedd aeddfed a hynafol a choed yn y caeau (Derw yn bennaf). Mae'r gwrychoedd i raddau helaeth yn dilyn patrwm caeau hanesyddol ond nid ydynt wedi'u rheoli'n ddiweddar.

Mae gan y safle glytwaith cyfoethog o fathau o gynefinoedd gan gynnwys argloddiau graean, glaswelltir corsiog, glaswelltir niwtral, coetir gwlyb, gwrychoedd aeddfed, coed hynafol, cyrsiau dŵr o wahanol feintiau a dŵr llonydd. Mae’r cynefinoedd lled-naturiol sy’n bresennol yn brin yn yr ardal hon o ddyffryn Tywi ac os cânt eu rheoli’n gydnaws, mae ganddynt botensial mawr i gynnal bioamrywiaeth gyfoethog a chyfrannu’n sylweddol at gadernid ecosystemau yn yr ardal leol.

Mae nodweddion gorlifdir gweithredol fel ystumllynnoedd a sianeli afonydd sy'n cynnal Gwern a dŵr llonydd. Mae'r safle o fewn ffiniau'r Tywi (SoDdGA ac ACA). I'r Dwyrain o'r brif afon a'r sianeli mwy mae mynediad yn wael, mae'r tir wedi'i adael yn fraenar ac mae'n goetir torlannol sy'n adfywio'n naturiol.

Er gwybodaeth, gwerthwyd y tir fel pum lot a chawsom dri ohonynt. Roedd y ddau arall yn cynnwys cyfran uwch o dir amaethyddol mwy cynhyrchiol. Roedd y tri a sicrhawyd gennym i gyd yn cynnwys cyfran o dir mwy garw a/neu lai hygyrch, llai deniadol at ddibenion amaethyddol.

Mae'r tir yn gysgodol gyda maetholion pridd canolig i gyfoethog ac yn llaith i leithder pridd ffres. Mae rhagamcanion newid yn yr hinsawdd yn dangos bod y safle'n debygol o ddod yn gynhesach a sychach yn y dyfodol.

Dengys Ffigur Dau fap o'r safle ynghyd â rhai ffotograffau o rai o'r nodweddion amlwg.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Mae Ffigur tri yn dangos y map presennol o'r safle o'i gymharu â mapiau hanesyddol. Yn dangos sut mae ffiniau caeau a chwrs yr afon wedi newid dros amser.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

 

Cynllun Coetir

Ein bwriad yw creu coetir newydd amrywiol a chadarn a fydd yno i bobl Cymru ei fwynhau am byth.

Bydd y coetiroedd Coffaol yn symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig ac yn un o adfywio ac adnewyddu wrth i’r coetiroedd newydd dyfu. Byddant yn lleoedd coffáu lle gall teuluoedd a ffrindiau gofio anwyliaid coll a lle bydd y cyhoedd yn gallu myfyrio ar y pandemig a’r effaith enfawr y mae wedi’i chael ar ein bywydau i gyd.

Mae Ffigur pedwar yn disgrifio'r safle ac, yn seiliedig ar y nodweddion presennol, mae'n nodi'r cynllun ar gyfer creu coetir ym mhob un o ardaloedd tra gwahanol y safle.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Mae Ffigur pump yn dangos sut y gallai'r safle edrych wrth i'r coetir ddechrau datblygu.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Paratoi tir: Ardaloedd o laswellt hirach i'w dorri. Tir i'w baratoi trwy sgriffio â llaw i greu safle plannu heb chwyn. 

Diogelu coed: Oherwydd y tywarch glaswellt sydd yno’n barod mae'n debygol y bydd glasbrennau'n agored i gylchrisglo gan famaliaid bach fel llygod pengrwn. Fodd bynnag, mae ymchwiliad safle yn dangos bod pwysau pori gan geirw a chwningod yn isel. Felly byddwn yn defnyddio troellau i amddiffyn rhag mamaliaid bach. Lle bo modd, bydd coed yn cael eu hamddiffyn rhag cystadleuaeth gan lystyfiant trwy sgriffio â llaw wrth blannu a chwynnu modur â llaw nes eu bod wedi sefydlu.

Why your views matter

Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad byr a rhannwch eich adborth gyda ni ar y cynlluniau ar gyfer y safle a rhowch wybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan yn y dyfodol.

Areas

  • Carmarthen Town North
  • Carmarthen Town South
  • Carmarthen Town West

Audiences

Interests

  • Forest Management